Rydym yn byw ym myd y cyfryngau gwybodaeth torfol gyda thoreth ddyddiol o ddelweddau'n cystadlu am ein sylw. Heddiw mae'r we a'r byd digidol yn cynnig arlwy gyfoethog ac amrywiol inni ym maes celfyddyd, crefft a dylunio yng Nghymru.
Mae Llinell Amser yn ffenestr i ddyfeisgarwch creadigol Cymru drwy hanes ar draws pob genre a chyfrwng. Tipyn o her yw dadbacio miloedd o flynyddoedd o hanes diwylliannol. Nid y gair olaf yw Llinell Amser, ond man cychwyn, cerbyd i arwain y disgybl a myfyriwr chwilfrydig at ymchwil personol dyfnach ac ehangach. Nod Llinell Amser yw ysbrydoli creadigrwydd a blys am wybodaeth drwy enwi artistiaid a gwneuthurwyr allweddol o'r gorffennol a'r presennol. Ar hyn o bryd, allwn ni ddim ond brith gyffwrdd ar y miloedd ar filoedd o ddelweddau ac artistiaid yr hoffem eu cynnwys.
Ym mhob adran ceir delweddau a dolenni at wybodaeth, lle bo honno ar gael, i roi'r lluniau yn eu cyd-destun. Bydd tudalen adnoddau'n cynnwys llyfryddiaeth a gwefannau buddiol a fydd yn caniatáu i'r myfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth ymhellach.
Gweithiwyd ar y Llinell Amser gan dîm o artistiaid/dylunwyr gweithiol ac academyddion, sy'n ymwneud â dysgu, ymchwil a chreu yng Nghymru heddiw. Mae arnom ddyled fawr i artistiaid unigol, archif a chasgliadau Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfeydd ac Orielau Abertawe a chasgliadau Prydeinig eraill. Yn ogystal rydym yn gwerthfawrogi nawdd a chefnogaeth amhrisiadwy y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.